Banner Default Image

Pennaeth Gwasanaethau TG

Go back

To see this advert in English, click here

Pennaeth Gwasanaethau TG

Cyflog: £61,890 - £69,372 (Dyfarniad cyflog yn yr arfaeth)

Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr (hybrid)

Dyddiad cau: 5fed Mai (hanner dydd)

Y Cyfle

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn recriwtio Pennaeth Gwasanaethau TG newydd. Dyma gyfle anhygoel i arwain datblygiad strategol systemau a gwasanaethau TG yr Ombwdsmon a sbarduno trawsnewid digidol i sicrhau bod gwasanaethau TG a digidol yn cefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion strategol.

Mae gan yr Ombwdsmon dair rôl benodol: ystyried cwynion am ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ystyried cwynion am gynghorwyr yn torri'r Cod Ymddygiad, ac ysgogi gwelliant systemig neu mewn gwasanaethau cyhoeddus a safonau ymddygiad mewn llywodraeth leol yng Nghymru.

Gan gynnig trefniadau gweithio hybrid, gweithio hyblyg gyda lwfansau gwyliau blynyddol hael, pensiwn y gwasanaeth sifil, DPP ac ystod eang o fuddion iechyd a lles, ystyrir yr Ombwdsmon yn gyflogwr delfrydol i geiswyr gwaith ledled Cymru a thu hwnt.

Mae'r Ombwdsmon wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac mae'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol hanfodol.

Beth fydd Pennaeth Gwasanaethau TG yn ei wneud:

Rheolaeth Strategol ac Arweinyddiaeth TG: Darparu'r rheolaeth strategol o wasanaethau TG a digidol yr Ombwdsmon ac arwain ar y gwaith o ddatblygu a chyflawni'r Strategaeth TG a Digidol.

Rheoli a Chyflawni Prosiect: Rheoli prosiectau TG i sicrhau cyflawniad cadarn o fewn amser a chyllideb, gan ddeall anghenion defnyddwyr a llunio disgwyliadau ac uchelgeisiau.

Dysgu Peiriant ac AI: Arwain ar y gwaith o ddysgu peiriannau, awtomeiddio, ac AI i ddiwallu anghenion OGCC wrth sicrhau atebolrwydd, tryloywder a chymesuredd.

Gwelliant TG Parhaus a Chymorth i Ddefnyddwyr: Ysgogi gwelliant parhaus ym mhrofiad defnyddwyr TG, gan gefnogi staff ar bob lefel gyda systemau sy'n diwallu eu hanghenion.

Rheoli Contractau a Chyflenwyr: Ymgymryd â chaffael ar gyfer cymorth a gwasanaethau TG, gan ddatblygu manylebau a gwerthuso tendrau. Rheoli contractau a pherthnasoedd â chyflenwyr allweddol i sicrhau perfformiad da a mynd i'r afael yn rymus ag unrhyw berfformiad gwael gan gyflenwyr.

Seibrddiogelwch a Pharhad Busnes: Sicrhau diogelwch systemau a data OGCC, gyda mesurau seiberddiogelwch cryf, copïau wrth gefn, a chynlluniau parhad busnes yn eu lle ar gyfer digwyddiadau heb eu cynllunio.

Beth fydd yr Ymgeisydd Llwyddiannus yn ei gynnig i'r tîm:

Arbenigedd Strategol a Gweithredol: Craffter masnachol ac arbenigedd technegol cryf mewn disgyblaeth broffesiynol berthnasol, gyda'r gallu i weithredu yn effeithiol ar lefelau strategol a gweithredol.

Arweinyddiaeth Brofedig mewn Trawsnewid Digidol: Hanes o arwain y brosesu o ddatblygu a chyflawni trawsnewid digidol, data a thechnolegol i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

Profiad o Uwch Reoli ac Arweinyddiaeth Matrics: Profiad o oruchwylio prosiectau sy'n hanfodol i fusnes ac arwain timau gydag arweinyddiaeth matrics ar draws ffiniau sefydliadol a chyflenwyr.

Arloesedd a Gwasanaethau sy'n Canolbwyntio ar y Cwsmer: Y gallu i ysgogi arloesedd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan ddarparu gwasanaethau digidol, data neu dechnoleg sy'n perfformio'n dda ac sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.

Arweinyddiaeth a Datblygiad Tîm Cryf: Y gallu i arwain, cymell, a datblygu timau sy'n perfformio'n dda, gyda ffocws ar gefnogi cydweithwyr trwy newid a chyflawni nodau sefydliadol.

Dylanwadu, Cyfathrebu, a Negodi Sgiliau dylanwadu, negodi a chyfathrebu i lywio o fewn cyd-destun gwleidyddol.

Yr hyn a gewch yn gyfnewid:

  • Cyflog o £61,890 i £69,372
  • Cynllun Pensiynau'r Gwasanaeth Sifil
  • 32 diwrnod o wyliau blynyddol + gwyliau banc
  • Cynllun amser flexi
  • Aelodaeth Gampfa am bris gostyngol a nifer o fuddion eraill.

Proses ymgeisio:

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd, 5 Mai 2025.

Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb, ar y safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 15 Mai 2025.

Yolk Recruitment yw partner recriwtio yr Ombwdsmon ac felly bydd pob cais yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk yn dilyn proses recriwtio deg a thryloyw yr Ombwdsmon ei hun.

Gallwch ofyn am becyn ymgeisydd sy'n cynnwys y Disgrifiad Swydd llawn a Manyleb y Person gan Luke Cox yn Yolk Recruitment. / 07458160673.

Os credwch fod y cyfle hwn i fod yn Bennaeth Gwasanaethau TG yn addas i chi, gwnewch gais ar-lein. Bydd angen i chi ddarparu copi cyfredol o'ch CV sy'n nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl.

Gallwch ymgeisio yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol.

x ‎‎
x