Banner Default Image

Code Assessment Officer

Go back
  • Location:

    Bridgend

  • Sector:

    Public Sector & Not-for-Profit

  • Job type:

    Fixed Term Contract (FTC)

  • Salary:

    Up to £31290.00 per annum

  • Contact:

    Richard Coombs

  • Email:

    richard.coombs@yolkrecruitment.com

  • Job ref:

    BBBH38500

  • Published:

    6 days ago

  • Duration:

    12 months

  • Expiry date:

    17 May 2025

Swyddog Asesu Codau - Contract Tymor Penodol 12 mis - £31,290

Dyddiad Cau: Hanner dydd ar 31 Mawrth 2025.

Y Cyfle

Mae Yolk Recruitment ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi dod ynghyd er mwyn dod o hyd i Swyddog Asesu Codau am Gontract Tymor Penodol 12 mis.

Mae'r Ombwdsmon yn gyflogwr delfrydol i'r rhai sy'n chwilio am waith yng Nghymru a thu hwnt, gan ei fod yn cynnig gweithio hybrid a gweithio hyblyg gyda lwfansau gwyliau blynyddol hael, pensiwn y gwasanaeth sifil, DPP ac amrywiaeth eang o fuddion iechyd a lles. Oherwydd natur y swydd hon, rydym yn rhagweld y bydd angen i'r rôl hon ddigwydd o'r swyddfa yn bennaf ar y dechrau.

Mae'r Ombwdsmon wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal ac yn gwarantu cyfweliadau i ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer dethol.

Y Swydd

Mae hon yn swydd i raddedigion felly bydd yn addas i raddedigion diweddar, ac yn ddelfrydol i rai sydd â gradd yn y gyfraith. Chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf i aelodau o'r cyhoedd sy'n cysylltu â'r Ombwdsmon a byddwch hefyd yn asesu cwynion sy'n ymwneud â Chodau Ymddygiad:

  • Asesu a gwneud penderfyniadau ar gwynion yn ymwneud â Chodau Ymddygiad a ddaw i law yr Ombwdsmon
  • Drafftio a chyhoeddi hysbysiadau perthnasol ynghylch penderfyniadau
  • Rhoi cyngor ac arweiniad i aelodau o'r cyhoedd
  • Diweddaru'r system rheoli achosion

Gofynion

Bydd y Swyddog Asesu Codau llwyddiannus yn bodloni'r rhan fwyaf o'r meini prawf canlynol:

  • Gradd berthnasol (yn y gyfraith yn ddelfrydol).
  • Y gallu i asesu gwybodaeth gymhleth, gan adnabod materion allweddol yn gyflym wrth ymdrin ag achosion cymhleth er mwyn gwneud penderfyniadau rhesymedig.
  • Y gallu i chwilio am ffeithiau, dadansoddi gwybodaeth a gwneud argymhellion cadarn.
  • Gallu cryf i addasu i newid a deall gwybodaeth newydd a newidiadau deddfwriaethol yn gyflym.
  • Sgiliau gweinyddol a rhyngbersonol rhagorol.

Buddion

Bydd y Swyddog Asesu Codau llwyddiannus yn cael y buddion canlynol:

  • Cyflog o £31,290
  • Cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil
  • 32 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau banc
  • Cynllun oriau hyblyg
  • Disgownt wrth ddefnyddio'r gampfa a llawer mwy o fuddion.

Ai dyma'r swydd i chi?

Yolk Recruitment yw unig bartner recriwtio'r Ombwdsmon ac felly bydd pob cais yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk gan ddilyn proses recriwtio deg a thryloyw yr Ombwdsmon ei hun.

Gallwch ofyn am becyn ymgeiswyr sy'n cynnwys y Swydd-disgrifiad a Manyleb y Person yn llawn gan Richard Coombs yn Yolk Recruitment.

Gallwch wneud cais yn y Gymraeg neu yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol.

x ‎‎
x


Looking for top-notch talent?

If you're a business owner or hiring manager, Yolk can help you find your next superstar.

Submit your vacancy below.