-
Location:
Newport
-
Sector:
-
Job type:
-
Salary:
£85000 - £97000.00 per annum + Flexible, hybrid working
-
Contact:
Hannah Welfoot
-
Email:
hannah.welfoot@yolkrecruitment.com
-
Job ref:
BBBH37486
-
Published:
2 days ago
-
Expiry date:
04 December 2024
Mae tîm Sector Cyhoeddus a Nid-er-Elw Yolk Recruitment yn falch o fod yn bartner chwilio gweithredol i Cymwysterau Cymru wrth i'r corff benodi Cyfarwyddwr Gweithredol Cymwysterau - Polisi a Diwygio. Cymwysterau Cymru yw'r corff cenedlaethol annibynnol sy'n gyfrifol am reoleiddio cyrff dyfarnu cydnabyddedig sy'n cynnig cymwysterau heblaw graddau yng Nghymru.
Y Cyfle
Byddwch yn rhan o'r tîm gweithredol sy'n cynnwys y Prif Weithredwr a thri Chyfarwyddwr Gweithredol arall. Mae'r tîm yn gyfrifol am redeg Cymwysterau Cymru o ddydd i ddydd, gan gyflawni ei swyddogaethau, ei gynllun busnes a'i flaenoriaethau strategol ynghyd â pharatoi ei adroddiad blynyddol. Mae'r Cyfarwyddwyr Gweithredol yn aelodau allweddol o'r Bwrdd Rheoli, sef prif fforwm Cymwysterau Cymru ar gyfer gwneud penderfyniadau mewnol.
Gan adrodd i'r Prif Swyddog Gweithredol ac fel aelod o'r tîm gweithredol, bydd y Cyfarwyddwr Gweithredol Cymwysterau - Polisi a Diwygio yn rhoi arweiniad strategol i'r gyfarwyddiaeth Polisi a Diwygio Cymwysterau (y Gyfarwyddiaeth). Mae'r Gyfarwyddiaeth yn gweithredu'n bennaf ar sail prosiect ac yn ymdrin â phob math o brosiectau bach a mawr - yn amrywio o brosiectau mawr a chymhleth sy'n ymestyn dros sawl blwyddyn ac sydd â chyllidebau uchel i brosiectau bach sydd â chyllidebau bach a chylchoedd bywyd cymharol fyr.
Byddwch yn gyfrifol am ddadansoddi tueddiadau allweddol mewn addysg ac asesu i lywio'r gwaith o ddatblygu dulliau diwygio a pholisïau cymwysterau sy'n addas i Gymru, ac sy'n gydnaws ag amcanion strategol Cymwysterau Cymru.
Y profiad a'r wybodaeth sy'n ofynnol:
- Profiad o weithio mewn rôl arwain gydag effaith strategol sylweddol.
- Gwybodaeth dda am reoli prosiectau a rhaglenni gyda phrofiad uniongyrchol o reoli prosiectau, a'r gallu i gyflawni yn unol â'r safonau gofynnol.
- Dealltwriaeth helaeth o'r system gymwysterau a sut mae cymwysterau'n cyfrannu at y system addysg yn ehangach.
- Dealltwriaeth o sut mae cyrff dyfarnu'n gweithredu a'r pwysau sy'n eu hwynebu.
- Cefndir cadarn mewn rheoli newid yn ogystal â rheoli rhanddeiliaid.
- Sgiliau arwain, gyda gallu profedig i arwain ac ysgogi eich cyfarwyddiaeth i gyflawni.
- Cydweithredol a dylanwadol gyda'r gallu i ddatblygu atebion arloesol i broblemau cymhleth.
Manylion ymgeisio:
Cysylltwch â Hannah Welfoot yn Yolk Recruitment i gael Pecyn Gwybodaeth llawn i Ymgeiswyr sy'n cynnwys swydd ddisgrifiad, neu os hoffech drafod y rôl ymhellach.
I wneud cais, anfonwch CV a datganiad ategol (hyd at 3,000 o eiriau) sy'n nodi sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol - manylion pellach yn y Pecyn Gwybodaeth i Ymgeiswyr.
Dyddiad cau - 23:59 dydd Sul, 24 Tachwedd 2024.
Dyddiad cyfweliad - cyfweliad cyntaf dydd Llun, 9 Rhagfyr 2024, wyneb yn wyneb yng Nghasnewydd.
Mae Cymwysterau Cymru wedi ymrwymo i amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant. Croesewir ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.