Banner Default Image

Swyddog Cymorth Gweithredol a Llywodraethu

Swyddog Cymorth Gweithredol a Llywodraethu

  • Location

    Cardiff

  • Sector:

    Public Sector & Not-for-Profit

  • Job type:

    Permanent

  • Salary:

    Up to £38985.00 per annum

  • Contact:

    Hannah Welfoot

  • Email:

    hannah.welfoot@yolkrecruitment.com

  • Job ref:

    BBBH36358

  • Published:

    3 months ago

  • Expiry date:

    2024-08-01

  • Consultant:

    ConsultantDrop

Swyddog Cymorth Gweithredol a Llywodraethu

Cwmni newydd yw Adnodd a grëwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad hawdd i bob dysgwr ac athro at adnoddau arloesol, dwyieithog ac o'r ansawdd uchaf i gyfoethogi eu profiad o'r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd yn darparu cyfeiriad strategol ac yn gweithio gydag ymarferwyr a chrewyr cynnwys ar draws y dirwedd addysg i gomisiynu a sicrhau ansawdd yr adnoddau addysg a fydd yn helpu dysgwyr i lwyddo.

Y Cyfle

Mae Yolk Recruitment yn cefnogi Adnodd i recriwtio Swyddog Cymorth Gweithredol a Llywodraethu a fydd yn gwneud cyfraniad hanfodol i helpu Bwrdd ac uwch dîm Adnodd i sicrhau bod y sefydliad yn rhedeg yn esmwyth.

Y Rôl

Byddwch yn darparu cymorth gweithredol rhagweithiol i'r Prif Weithredwr a'r uwch dîm rheoli, yn cefnogi cyfathrebu effeithiol â rhanddeiliaid, yn darparu cefnogaeth weinyddol gynhwysfawr i'r Bwrdd, ac yn cefnogi Pennaeth y Gwasanaethau Corfforaethol gyda threfniadau a phrosesau llywodraethu a gweithredol trwy ddarparu'r canlynol:

  • Cymorth gweithredol a gohebiaeth ysgrifenedig
  • Gweinyddiaeth y Bwrdd
  • Llywodraethu a chyflawni corfforaethol
  • Cyfathrebu

Gofynion

Bydd gan y Swyddog Cymorth Gweithredol a Llywodraethu llwyddiannus y profiad, y cymwysterau a'r priodoleddau canlynol:

  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar cryf yn y Gymraeg a'r Saesneg
  • Addysg i safon Lefel 4 e.e. ILM lefel 4; NVQ Lefel 4, Diploma BTech, HNC neu wybodaeth a enillwyd trwy brofiad amlwg mewn maes perthnasol.
  • Profiad o fod yn gynorthwyydd gweithredol neu bersonol, neu mewn rôl cefnogi prosiect
  • Profiad o reoli dyddiadur a threfnu teithio a llety.
  • Profiad o drefnu a chefnogi cyfarfodydd ac o weithio'n llwyddiannus gydag uwch dimau rheoli ac arwain,
  • Profiad o baratoi a phrawfddarllen dogfennau ffurfiol megis cofnodion, gohebiaeth, adroddiadau a chyflwyniadau
  • Sgiliau cynllunio, trefnu a rheoli amser ardderchog.
  • Y gallu i reoli nifer o flaenoriaethau a thasgau i gadw at derfynau amser.
  • Y gallu i gynnal cyfrinachedd a gweithredu gyda disgresiwn a diplomyddiaeth.
  • Hyfedredd wrth ddefnyddio meddalwedd Microsoft Office gan gynnwys Office 365
  • Meddylfryd ymarferol a rhagweithiol gydag ymrwymiad i wasanaeth cwsmeriaid a gwelliant parhaus.

Buddion

Bydd y Swyddog Cymorth Gweithredol a Llywodraethu llwyddiannus yn derbyn:

  • Cyflog cychwynnol o £38,985
  • Gwyliau blynyddol o 30 diwrnod + gwyliau cyhoeddus + Dydd Gŵyl Dewi
  • Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
  • Amrywiaeth o fuddion ychwanegol

Dyddiad Cau: 10yb Llun 8ed Gorffennaf 2024

Dyddiad Cyfweliad ac Asesu: Mercher 17eg Gorffennaf 2024

Lleoliad Cyfweliad ac Asesu: Yolk Recruitment, The Shell Anchor Court, Keen Road, Caerdydd CF24 5JW

Yolk Recruitment yw partner recriwtio egsgliwsif Adnodd ac felly bydd pob cais yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk gan ddilyn proses recriwtio deg a thryloyw Adnodd.

x Yolk Recruitment | UK Recruitment | Hiring Manager | Business Owner
x


Looking for top-notch talent?

If you're a business owner or hiring manager, Yolk can help you find your next superstar.

Submit your vacancy below.